Dyn wedi'i drywanu gan bolyn ar fferm wynt yn Sir Ddinbych

Tir Mostyn Image copyright Geograph/Eirian Evans
Image caption Mae fferm wynt Tir Mostyn wedi'i lleoli yn Sir Ddinbych

Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu gan bolyn wedi iddo ddisgyn i lawr twll ar fferm wynt yn Sir Ddinbych.

Fe wnaeth yr ambiwlans awyr gludo'r dyn o'r digwyddiad yn Nantglyn ger Dinbych, ble roedd yn gweithio, i Ysbyty Aintree yn Lerpwl.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd eu galw i'r digwyddiad am tua 15:00 ddydd Iau.

Pynciau Cysylltiedig