Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

A541 Image copyright Google
Image caption Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriad Dinbych ar yr A541 ger Afon-wen

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir y Fflint brynhawn Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Land Rover gwyn a BMW llwyd ar yr A541 ger Afon-wen am tua 14:00.

Cafodd gyrrwr y Land Rover - dyn yn ei 50au o ardal Yr Wyddgrug - ei hedfan i ysbyty yn Stoke ond bu farw o'i anafiadau.

Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriad Dinbych ar y pryd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio i unrhyw dystion neu unrhyw un welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu.