Prifysgol Aberystwyth yn penderfynu cau campws Mauritius

Campws Prifysgol Aberystwyth ym Mauritius Image copyright Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth ar fin cau eu campws ar ynys Mauritius yng Nghefnfor India, ddwy flynedd ar ôl ei agor.

Mae corff llywodraethol y coleg wedi penderfynu na fyddan nhw'n "cofrestru rhagor o fyfyrwyr" ar y campws o Fawrth 2018 ymlaen.

Yn yr ail flwyddyn, 106 o fyfyrwyr wnaeth gofrestru i astudio ym Mauritius, er bod lle i 2,000.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth nad oedden nhw am wneud sylw.

'Dim awydd'

Cafodd y wybodaeth ei gyhoeddi mewn cofnod o gyfarfod cyngor y brifysgol ym mis Hydref, sydd bellach wedi cael eu tynnu oddi ar y wefan.

Roedd y rheiny yn dweud: "Mae trafodaethau gydag adrannau academaidd sy'n darparu rhaglenni yng nghampws Mautiritus wedi dangos nad oedd yna awydd derbyn myfyrwyr newydd ym mis Mawrth 2018."

Ychwanegodd: "Ni fydd y brifysgol yn cofrestru rhagor o fyfyrwyr yn y campws."

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption 106 o fyfyrwyr oedd wedi cofrestru i astudio ym Mauritius yn yr ail flwyddyn, er bod lle i 2,000

Fe wnaeth y sefydliad golled o bron i £200,000 o'r fenter yn ystod y flwyddyn gynta', yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Dyw'r ystadegau ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 heb eu cyhoeddi eto.

Daeth cyhoeddiad ym mis Hydref y bydd 11 o swyddi academaidd yn cael eu colli yn y brifysgol wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £6m yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Fe ddisgrifiodd cyn is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Derec Llwyd Morgan, y penderfyniad o sefydlu'r campws ym Mauritius fel un "gwirion bost" ar ôl iddi ddod i'r amlwg mai 40 o fyfyrwyr gofrestrodd yno yn ystod y flwyddyn academaidd gyntaf.

Roedd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas hefyd wedi galw ar y brifysgol i "dynnu'r plwg" ar y campws.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol