Pro14: Glasgow 40-16 Gleision

Taufao'ao Filise Image copyright SNS
Image caption Nigel Owens yn gyrru Taufa'ao Filise o'r maes

Fe wnaeth Glasgow groesi'r llinell gais chwe gwaith wrth guro 14-dyn y Gleision o 40-16.

Hon oedd 10fed buddugoliaeth Glasgow yn olynol.

Cafodd prop y Gleision Taufa'ao Filise ei anfon o'r maes ar ôl 30 munud am dacl uchel ar George Turner.

Roedd y Gleision wedi mynd ar y blaen gyda chais Macauley Cook, ond fe darodd y Warriors yn ôl gan fynd ar y blaen cyn yr egwyl diolch i Sam Johnson ac Alex Dunbar.

Yn yr ail hanner croesodd Ruaridh Jackson, Samuela Vunisa, Leonardo Sarto a Niko Matawalu i selio'r fuddugoliaeth.

Daeth gweddill pwyntiau'r Gleision o droed Jarrod Evans.

Pynciau Cysylltiedig