Uwch Gynghrair Lloegr: Stoke 2-1 Abertawe

Mame Biram Diouf Image copyright Getty Images
Image caption Hon oedd 10fed colled Abertawe yn y gynghrair y tymor yma

Mae Abertawe wedi disgyn i waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl cael eu trechu yn Stoke brynhawn Sadwrn.

Fe ddechreuodd yr Elyrch yn dda, ac roedden nhw ar y blaen ar ôl tri munud gyda Wilfried Bony yn sgorio ei gôl gyntaf ers dychwelyd i'r clwb yn yr haf.

Ond roedd y tîm cartref ar y blaen cyn diwedd yr hanner cyntaf wedi goliau gan Xherdan Shaqiri a Mame Biram Diouf.

Golwr Stoke, Jack Butland oedd yr arwr ar ddiwedd yr ail hanner, wrth iddo arbed yn dda o'i amddiffynnwr ei hun, Ryan Shawcross.

Gyda Crystal Palace wedi cael gêm gyfartal â West Bromwich Albion, maen nhw'n codi uwchben Abertawe i 18fed yn y tabl.

Bydd y canlyniad yn gweld cwestiynau'n codi am ddyfodol y rheolwr, Paul Clement, gyda'r Elyrch heb ennill gêm gynghrair ers canol mis Hydref.

Pynciau Cysylltiedig