Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-0 Caergrawnt

Joss Labadie Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Joss Labadie ei gôl gyntaf wedi dim ond dau funud

Mae Casnewydd trwodd i drydedd rownd Cwpan FA Lloegr wedi i Joss Labadie eu hysbrydoli i fuddugoliaeth dros Gaergrawnt yn Rodney Parade ddydd Sul.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond dau funud, gyda'r capten Joss Labadie yn taro foli i gefn y rhwyd o groesiad Matthew Dolan.

Cafodd y tîm cartref eu hachub ar ddechrau'r ail hanner wrth i'r amddiffynnwr Ben White glirio'r bêl oddi ar y llinell i atal gôl sicr i Gaergrawnt.

Ond roedd y fuddugoliaeth yn sicr yn y 10 munud olaf, wrth i Labadie ychwanegu ail gôl gyda foli arall, y tro yma o groesiad Frank Nouble.

Bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer y drydedd rownd nos Lun.

Pynciau Cysylltiedig