Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam

Stryd Holt Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A534, Stryd Holt

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A534, Stryd Holt, toc cyn 09:30.

Bu'r ffordd ffordd ynghau trwy gydol y bore, ond mae wedi ailagor bellach.

Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig