Cwpan Cymru: Y bedwaredd rownd

cwpan cymru

Wedi iddyn nhw gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru, gwobr Llanrhaeadr-ym-Mochnant yw cael croesawu CPD Dinas Bangor.

Mae honno'n un gêm sy'n tynnu dŵr i'r dannedd, ond fe fydd sylw hefyd i ymweliad Y Seintiau Newydd â thref y Cofis. Ar eu hymweliad diwethaf â'r Oval, fe wnaeth y pencampwyr stryffaglu wrth ennill 3-2.

Dim ond un gêm sy'n gweld dau dîm o'r Uwch-Gynghrair yn herio'i gilydd wrth i Aberystwyth deithio i wynebu Prifysgol Met Caerdydd.

Yr unig gêm sy'n gweld dau dîm o'r tu allan i'r Uwch-Gynghrair yn herio'i gilydd fydd y gêm ddarbi rhwng Penydarren â Phontypridd.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos 26-28 Ionawr, 2018.

Cwpan Cymru: Y bedwaredd rownd:

  • Y Fflint v. Y Drenewydd
  • Llanrhaeadr-ym-Mochnant v. Bangor
  • Caernarfon v. Y Seintiau Newydd
  • Cei Connah v. Porthmadog
  • Prifysgol Met Caerdydd v. Aberystwyth
  • Pontypridd v. Penydarren
  • Llandudno v. Rhuthun
  • Airbus UK Brychdyn v. Caerfyrddin