Jonathan Davies yw Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2017

Jonathan Davies
Image caption Doedd Jonathan Davies methu bod yn bresennol yn y noson wobrwyo ond roedd ei rieni yng Nghasnewydd ar ei ran

Canolwr Cymru a'r Llewod Jonathan Davies yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2017.

Daeth Davies i frig y bleidlais gyhoeddus, ar y blaen i Geraint Thomas, a ddaeth yn ail, a Natalie Powell yn y trydydd safle.

Mae Jonathan wedi cael blwyddyn ddisglair yn 2017; arweiniodd ei berfformiad cadarn i'r Llewod iddo gael ei enwebu yn chwaraewr y gyfres yn Seland Newydd.

Chwaraeodd y canolwr bob munud o'r tri Phrawf yn erbyn y Crysau Duon wrth i'r Llewod greu hanes drwy sicrhau cyfres gyfartal.

Image caption Rheolwr Lerpwl Jurgen Klopp yn cyflwyno'r wobr i Ben Woodburn

Roedd Davies ar y rhestr fer gyda'r pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Siôn Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas.

Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghasnewydd, ble roedd BBC Cymru a Chwaraeon Cymru yn dathlu llwyddiant timau ac unigolion y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf.

Image caption Catrin Jones o Fangor gafodd ei choroni'n Athletwraig Ifanc y Flwyddyn yng nghategori'r merched

Tîm Hoci Iâ Devils Caerdydd enillodd wobr Tîm y Flwyddyn wedi blwyddyn lwyddiannus ar ôl ennill y Gynghrair Elît a'r Gwpan Her.

Asgellwr Lerpwl a Chymru, Ben Woodburn enillodd gwobr Athletwr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James.

Mae perfformiadau cyson Woodburn wedi sicrhau cytundeb newydd iddo gyda Lerpwl ac fe sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstria ym mis Medi.

Y codwr pwysau, Catrin Jones o Fangor oedd yn fuddugol yng nghategori Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James.

Daeth Catrin yn bencampwraig Cymru yn 2017 ac fe enillodd hi fedal arian yn Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Awstralia.

Image copyright Getty Images
Image caption Cardiff Devils yw Tîm y flwyddyn yn dilyn blwyddyn llwyddianus ar y Iâ

Fe gafodd yr hyfforddwr pêl-droed Alan Curtis ei anrhydeddu gyda Gwobr Cyfraniad Oes.

Fe wnaeth Curtis chwarae 35 o weithiau i Gymru a sgorio chwe gôl. Mae hefyd wedi bod yn amlwg fel hyfforddwr yng nghlwb Pêl-droed Abertawe ar ôl ymddeol o'i yrfa chwarae.

Fe gafodd y cyn-chwaraewr rygbi David Watkins wobr cyfraniad arbennig.

Fe chwaraeodd Watkins Rygbi'r Undeb a Rygbi'r Gynghrair gan chwarae a hyfforddi Cymru a thîm Prydain Fawr.

Image caption Chwaraewr canol cae Abertawe Leon Britton wnaeth gyflwyno'r wobr am gyfraniad oes i Alan Curtis

Y cyn athletwr Christian Malcolm sydd wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn. Fe wnaeth Malcolm hyfforddi tîm y dynion i ennill aur ym Mhencampwriaethau'r Byd. Llwyddodd tîm y merched hefyd i ennill y fedal arian yn y bencampwriaeth.

Fe wnaeth Malcolm, sy'n gweithio fel hyfforddwr gwibio i Anabledd Cymru hefyd hyfforddi'r athletwr paralympaidd Jordan Howe i fedal arian.

Image caption Mae Christian Malcolm yn gweithio fel hyfforddwr gwibio i Anabledd Cymru

Straeon perthnasol