Gwrthod newidiadau Cymru i Fesur Brexit yn San Steffan

San Steffan Image copyright Getty Images
Image caption "Cipio grymoedd o Frwsel a dod â nhw nôl i Lundain" mae Brexit, yn ôl un AS

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau gafodd eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban i ddeddfwriaeth Brexit.

Cafodd y mesur presennol ei ddisgrifio fel un "eithafol o wrth-Gymreig" gan un AS Llafur, yn ystod dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ar Fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae llywodraethau'r Alban a Chymru wedi disgrifio'r mesur fel ymgais i "gipio grym" wrth i ASau drafod y mesur.

Ond gwrthod hynny wnaeth y cyn-weinidog Brexit a chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones yn ystod y ddadl.

'Gwarchod sofraniaeth'

Byddai'r gwelliannau wedi rhoi pwerau mewn meysydd datganoledig oedd yn dychwelyd o'r UE yn syth i'r sefydliadau datganoledig, yn hytrach nag i San Steffan fel mae'r mesur yn ei gynnig.

Roedd ASau Llafur, Plaid Cymru a'r SNP wedi cydweithio ar y cynigion.

Ond mynnodd Mr Jones nad yw rhai o'r pwerau mewn meysydd wedi'u datganoli fydd yn dychwelyd o Frwsel "erioed wedi cael eu gweithredu".

Byddai hynny'n golygu na fyddai gan y Cynulliad "yr un iot yn llai o rym", a phetai unrhyw ostyngiad yn y pwerau dim ond "mewn theori" fyddai hynny, ychwanegodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd.

Er hynny fe wnaeth David Davies, AS Ceidwadol Mynwy, gydnabod bod Brexit yn "cipio grym", gan ddweud mai "cipio grymoedd o Frwsel a dod â nhw nôl i Lundain" mae'r broses.

Fe wnaeth AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, fynegi anghrediniaeth fod gweinidog yn ystyried "tanseilio" y llywodraethau datganoledig, gan ddadlau y gallai'r mesur alluogi Llundain i "gamu mewn a gwneud cyfreithiau i Gymru ar faterion sydd wedi'u datganoli".

Cyn y pedwerydd diwrnod o drafod Mesur Ymadael yr UE, fe wnaeth Plaid Cymru alw ar y gwrthbleidiau yn San Steffan i weithio gyda'i gilydd i newid y ddeddfwriaeth a gwarchod sofraniaeth Cymru.

Yn ei sylwadau agoriadol dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams AS, bod "datganoli yn gorchymyn y dylai pob rhan o'r DU gael llais".

Yn dilyn y bleidlais dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i drafod y ffordd ymlaen gyda gweinidogion y DU ac yn nodi eu datganiad fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn agored i drafodaethau ar y pwyntiau yma.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n hollol glir y byddwn ni'n parhau i ymladd dros hyn yn Nhŷ'r Arglwyddi os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau yn Nhŷ'r Cyffredin."

Pynciau Cysylltiedig