Cadw'r Gymraeg yn fyw ym mhen draw'r byd

Mae hi'n ugain mlynedd ers sefydlu cynllun i atgyfnerthu'r Gymraeg ym Mhatagonia.

Ers 1997 mae athrawon o Gymru wedi teithio i'r Wladfa i ddysgu Cymraeg am gyfnod.

Cafodd Sara Borda Green ei geni a'i magu yn yr Andes ac mae hi bellach yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n egluro sut mae nifer o bobl y Wladfa wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu iaith eu cyndeidiau:


Image caption Sara Borda Green tu fas i un o Ysgolion Cymraeg Patagonia

Naw oed oeddwn i pan ddaeth cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd i'r Andes. Rwy'n cofio'r cyfarfodydd yn nhai pobl i weld os oedd 'na ddiddordeb mewn cynllun i ddysgu'r Gymraeg.

Mae e wedi bod yn gynllun pwysig oherwydd roedd yn rhoi'r cyfle i bobl oedd ddim efallai o dras Cymreig i gael y cyfle i ddod at yr iaith a'r diwylliant. Roedd e hefyd yn rhoi'r cyfle i'r teuluoedd hynny oedd wedi colli'r iaith ers cenhedlaeth neu ddwy i ail afael ynddi hi.

Yn sicr mae'r cynllun wedi agor ffenestr rhwng Patagonia a Chymru. Mae dysgu'r iaith yn rhoi'r cyfle i weld beth sy'n digwydd heddiw, a chysylltu â phobl yng Nghymru heddiw.

Image caption Codi baneri Ariannin a Chymru y tu flaen i Ysgol y Cwm

Roedd dathliadau 150 mlynedd y Wladfa yn 2015 yn drobwynt i bawb ym Mhatagonia. Mi wnaeth y digwyddiadau helpu pobl i sylweddoli pa mor bwysig yw'r iaith, ar whahân i'r pethau Cymreig fel y canu a'r dawnsio gwerin.

Fe wnaeth y dathliadau greu rhyw fath o gonsensws yn y gymuned am bwysigrwydd trosglwyddo'r iaith fel ffordd bositif o ddathlu'r garreg filltir.

Roedd fy hen hen daid a nain ar y Mimosa, taid o ardal y Berwyn a nain o ardal Aberdâr. Felly mae'r iaith wedi bod yn bwysig iawn yn ein teulu. Roedd fy hen hen daid yn athro Cymraeg ac roedd yn rhedeg y papur newydd. Iddo fe roedd yr iaith yn elfen ganolog o'r fenter, ac felly roedd y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo i bob cenhedlaeth.

Rwy wedi bod yn ffodus bod yr iaith wedi ei throsglwyddo i mi gan fy nheulu i. Ond fe gollodd nifer o deuluoedd eraill y Gymraeg wrth i'r iaith swyddogol, y Sbaeneg, ddod yn fwy a mwy pwysig wrth i wladwriaeth yr Ariannin ddatblygu yn yr ugeinfed ganrif.

Roedd rhai teuluoedd yn ofni trosglwyddo'r Gymraeg achos eu bod nhw'n meddwl byddai hynny ddim yn helpu eu plant i wneud yn well mewn cymdeithas.

Mae'r Wladfa wedi profi dros y blynyddoedd bod y Gymraeg yn bwysig i ni. Dyw hi ddim wedi marw a gyda chymorth y cynllun mae'r sefyllfa nawr yn llawer gwell.

Does dim lle i amau na fydd yn gwella eto yn y dyfodol, ac mae'n bwysig cofio fod gan y Gymraeg hanes anhygoel o oroesi er gwaetha' pawb a phopeth.

Image caption Rhai myfyrwyr o'r Wladfa oedd ar un o gyrsiau Cymraeg y cynllun, gan gynnwys Sara Borda Green, Virginia Steinkamp, Cinthia Zamarreño, Ivana Mariel Mansilla ac Estela Alicia Jones

Hefyd ar y BBC