Y ferch gafodd ei henwi ar ôl mam yr Iesu

Mae nifer ohonom ni wedi derbyn ein henwau gan ein rhieni am resymau arbennig; ar ôl Mam-gu efallai, neu'r ardal ble mae'r teulu'n byw, neu gymeriad yn hoff ffilm Dad. (Druan ohonot ti, R2-D2 Davies.)

Wrth gwrs, mae adeg y flwyddyn yn gallu dylanwadau ar y dewis o enwau sydd gan eich rhieni ar y rhestr hefyd - ac mae 'na nifer o opsiynau ar gael os ydy'r babi yn un Nadoligaidd!

Image copyright Caryl Lewis
Image caption Mae (Gwenno) Mair a Joseff (Hedd) yn barod am y Nadolig!

Enw mab yr awdur Caryl Lewis yw Joseff Hedd, gafodd ei eni ym mis Rhagfyr 2009:

"Mae ei benblwydd ar y chweched, ac fe ddoth yng nghanol yr eira. Fuodd y fydwraig yn methu â galw a bron inni fethu a chofrestru ei enw am fod yr eira yn pallu â chlirio! Hedd 'y ni'n ei alw, ond gan ei fod yn fabi Nadolig, fe ddefnyddion ni Joseff hefyd.

"Dwi'n meddwl ei fod yn hoff o'r enw - yr unig broblem mae e'n gael yw'r degau o bobl sy'n gofyn iddo bob blwyddyn a yw e'n fachgen heddychlon fel yr enw! Mae e'n hoffi straeon yn fawr iawn felly dwi'n adrodd yr hanes iddo, hefyd hanes Hedd Wyn - aethon ni ag ef i'r Ysgwrn 'leni.

"Gwenno Mair yw'r ferch hefyd gan fod Mair yn enw mor gryf yn y teulu - mae gen i felly Joseff a Mair!"

Image copyright Mair Jones
Image caption Mae Mair yn falch o'i henw Nadoligaidd, er mai dim ond unwaith gafodd hi chwarae rhan y Forwyn Fair yn y capel!

Mae Mair Anwen Jones yn athrawes ymgynghorol yn Sir Benfro:

"Ges i fy ngeni ar y 27ain o Ragfyr, 1984, i Melvin a Carol - roedd Mam hefyd yn fabi Nadolig! Ges i fy enwi yn Mair oherwydd y dyddiad, a chael yr enw canol Anwen - Ann yn enw teuluol a 'wen' oherwydd ei bod hi'n oer a rhewllyd, a phob man dan eira, pan ges i fy ngeni.

"Rydyn ni'n deulu crefyddol, ac mae mynd i'r capel bob amser wedi bod yn bwysig i ni - capel hardd Cefenberach yn Gelli Aur, ger Llandeilo. Roedd stori'r geni yn bwysig bob blwyddyn wrth gwrs, er mai dim ond unwaith ges i chwarae rhan Mair erioed! Y storiwraig o'n i fel arfer, gan mai fi oedd yr hynaf.

"Dwi'n falch iawn o f'enw ac mae hi'n braf iawn cael enw sydd â chysylltiad mor gryf â'r ŵyl!"

Image copyright Eira Jones
Image caption Mae Eira yn hoffi torri'r iâ (neu'r eira?!) drwy egluro ystyr ei henw gaeafol

Mae Eira Jones yn gyfieithydd ac yn byw yng Nghaerdydd. Ganwyd hi 23 Rhagfyr 1959, ym Maesteg:

"Fel oedd Mam yn gadael y tŷ i fynd i'r ysbyty, dechreuodd hi fwrw eira, ac felly dywedodd Nain wrthi "os gei di ferch fach, galwa hi'n Eira!" Doedd dim sôn o gwbl beth fyddai'n digwydd pe bawn i wedi bod yn fachgen!

"Dyw'r enw ddim yn destun sgwrs felly, ond mae'n rhywbeth alla i ei ddefnyddio i dorri'r iâ drwy ddweud beth mae'n ei olygu. Mae'n achosi 'chydig o benbleth i gyfrifiaduron sy'n dweud eich enw chi yn syrjeri'r doctor - mae'n cael bob math o sbort wrth geisio ei ynganu!

"Does dim lot ohonon ni, mae'n enw eithaf anghyffredin, hyd yn oed bryd hynny - dwi ddim yn cofio neb arall yn yr ysgol na'r coleg gyda'r un enw. Mae'n enw unigryw, ac yn wahanol iawn i enw'n chwaer i, sef Sybil - mae'n siŵr fod fy rhieni wedi meddwl efallai bod well i mi gael enw Cymraeg!"

Image copyright BBC / S4C
Image caption Ymddangosodd Noel ar nifer o raglenni dros y blynyddoedd, gan gynnwys y ffilm Hedd Wyn, fel cadeirydd y tribiwnlys a anfonodd Elis Humphrey Evans i ymladd yn y Rhyfel Mawr

Cyn athro ac actor yw Noel Williams, o Wenfô, Bro Morgannwg. Cafodd ei eni yn Llanbedrog ar 16 Rhagfyr 1927:

"Doedd fy mam ddim yn siarad Cymraeg, nag yn teimlo dim cariad tuag at yr iaith. Roedd hi'n dilyn crefydd Christian Science, a doedd y Gymraeg ddim yn bwysig iawn yn y grefydd honno. Mae'n siŵr mai dyna sut ges i enw mor Saesnig.

"Dwi wastad wedi ei weld yn enw gwirion, yn enwedig achos ein bod ni'n byw ym Mhen Llŷn, gyda Wil drws nesa' a Now i lawr y ffordd - enwau annwyl iawn, oedd i'w ffeindio ym mhob plwy' yng Nghymru.

"Roedd o'n enw anghyffredin iawn, yn enwedig yn Troed yr Allt, Pwllheli lle es i i'r ysgol. Pan oedden ni'n canu carolau adeg Dolig, byddai pawb eisiau fy mhwnio i neu'n rhoi penelin i nghefn i pan oedd y gair Noel yn codi!

"Dwi'n cofio dod ar draws ambell i Noel arall dros y blynyddoedd, ond does yna ddim llawer ohonon ni. Mi fyddai pobl yn cymryd sylw o'r enw ers talwm, ond tydyn nhw ddim yn cymryd dim sylw y dyddiau yma, mae'n siŵr achos fod yna gymaint o gymysgfa o bobl ac enwau diarth i'w cael erbyn hyn."


Eisiau mwy o ysbrydoliaeth?


Image copyright Celyn Llwyd Cartwright
Image caption Mae Celyn yn ddigon cartrefol mewn tywydd oer, gaeafol!

Mae Celyn Llwyd Cartwright yn wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn fyfyrwraig berfformio yng Nghaerdydd:

"Ces i fy ngeni ar 18 Rhagfyr, 1998, union wythnos cyn Dolig. Doedd gan Mam ddim llawer o syniad beth oedd hi am fy ngalw i cyn i mi cael fy ngeni, felly pan nes i gyrraedd, 'chydig yn hwyr, a mor agos at y Dolig, meddyliodd y byddai Celyn yn addas!

"Pan mae pobl yn clywed fy enw i, yr ymateb cynta' ydi 'W, ti'n agos at Dolig felly!' Dydi o ddim yn enw cyffredin iawn, ond digwydd bod, mae 'na Celyn arall ar fy nghwrs coleg i rŵan, er mai ym mis Ebrill ganwyd hi!

"Dwi'n cael llawer o bobl yn ei ynganu yn anghywir, wrth gwrs... fel Selyn, Celine... roedd Sealion yn diddorol! Pan dwi'n prynu coffi, weithiau mae hi'n haws defnyddio 'Kelly', ond dwi yn mwynhau rhoi'r enw 'Holly' iddyn nhw weithiau, sydd yn agosach ati mewn ffordd!"


Image copyright Carol Davies Jones
Image caption Mae Carol yn amlwg yn mynd i ysbryd yr ŵyl bob Nadolig!

Cafodd Carol Davies Jones o Gaerdydd ei geni yn 1960:

"Ges i fy enwi yn Carol Mary gan fy mod wedi cael fy ngeni dau ddiwrnod cyn Nadolig. Ges i fy ngeni dau fis yn gynnar yn pwyso dau bwys. Mary yw fy ail enw ar ôl fy Mamgu ac hefyd Gŵyl y Geni.

"Pan oeddwn yn blentyn roeddwn i'n cael llawer o sylw yn ystod y Nadolig, yn enwedig pan yn canu carolau a chaneuon Nadoligaidd.

"Yn y gân Nadolig, pwy a ŵyr, gan Ryan Davies, mae'r llinell "a lleisiau plant yn uno i ganu Carol lan" bob amser yn codi gwên!"

Image copyright Shereen Williams
Image caption Mae Iesu wrth ei fod yn gweld ei enw ym mhob man!

Iesu yw enw mab hynaf Shereen Williams:

"Ym mis Medi cafodd Iesu ei eni, yn 2009. Iesu oedd e bob amser am fod - ro'n i wedi syrthio mewn cariad â'r enw ac yn benderfynol o'i alw yn Iesu hyd yn oed cyn i ni ddarganfod os mai bachgen oedd e!

"Yng nghrefydd Islam, mae Iesu/Jesus/Esayn cael ei ystyried yn broffwyd i Dduw, ac mae'n gyffredin iawn i deuluoedd Mwslemaidd alw eu plant ar ôl proffwydi.

"Mae fy nghyfeillion a theulu Mwslemaidd yn adnabod yr enw yn yr un modd â maen nhw'n 'nabod yr enw Jesus. Fel arfer mae fy ffrindiau sy'n siarad Cymraeg yn gwneud double-take pan maen nhw'n clywed yr enw gyntaf - 'Iesu? Fel Jesus Iesu?!' - ond yr ymateb fel arfer ar ôl i mi egluro pam ddewisais i'r enw yw 'cŵl!'"

Pynciau Cysylltiedig