Teyrngedau i Meic Povey
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Meic Povey: 'Y dramodydd mwyaf llwyddianus' mewn 50 mlynedd

6 Rhagfyr 2017 Diweddarwyd 09:54 GMT

Yn dilyn marwolaeth yr actor a'r awdur Meic Povey yn 67 oed, mae teyrngedau wedi eu rhoi "i'r dramodydd mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol yn y 50 mlynedd diwethaf".

Ar raglen Y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru ddydd Mawrth dywedodd y cyn-gynhyrchydd teledu Alun Ffred Jones, wnaeth weithio ar y gyfres Talcen Caled - gafodd ei hysgrifennu gan Meic Povey, ei fod "ar ei orau pan yn cydweithio efo pobl, unai fel awduron neu gynhyrchwyr," ac mai "ei gryfder oedd fel deialogwr".

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd at sylwadau Mr Jones gan ddweud "does dim modd gor-ddweud neu gor-bwysleisio ei gyfraniad i fyd y ddrama Gymreig, sgrin ac ar lwyfan".

Dylan Jones fu'n holi Alun Ffred Jones ac Arwel Gruffydd.