Ysgol Bryn y Môr sy’n dweud wrth Cymru Fyw pam fod Abertawe yn lle mor arbennig!
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ai Abertawe fydd Dinas Diwylliant y DU 2021?

7 Rhagfyr 2017 Diweddarwyd 07:53 GMT

Yn nes ymlaen ddydd Iau, bydd Abertawe'n clywed a ydy hi wedi bod yn llwyddiannus yn ei hymgais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.

Mae'r ddinas yn cystadlu'n erbyn Sunderland, Coventry, Stoke-on-Trent a Paisley am y clod, a bydd enw'r ddinas fuddugol yn cael ei gyhoeddi ar The One Show ar BBC1.

Ar drothwy'r cyhoeddiad felly, bu Cymru Fyw'n holi rhai o blant ysgol Bryn y Môr beth sy'n gwneud Abertawe'n ddinas arbennig.