Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth mam feichiog ar yr M4

Rebecca Evans Image copyright Shelter Cymru
Image caption Bu farw Rebecca Evans yn dilyn gwrthrawiad ar yr M4 ym mis Tachwedd 2016

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth mam feichiog trwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ym mis Tachwedd y llynedd.

Bu farw Rebecca Evans a'r baban yn y groth yn y digwyddiad rhwng tri char ger Margam, Castell-nedd Port Talbot ar fore 29 Tachwedd 2016.

Roedd Mrs Evans, 27 oed o Ben-y-bont, yn teithio gyda'i gwr Alex, a'i mab dwy oed, Cian, ar y pryd.

Mae Craig John Scott, 51 oed o ardal Y Mynydd Bychan, Caerdydd, hefyd wedi'i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Cafodd Cian hefyd ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae disgwyl i Mr Scott ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 22 Rhagfyr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol