Heddlu'n difa tarw ddihangodd o ladd-dy Cig Calon Cymru

Cig Calon Cymru, Cross Hands Image copyright Google Maps
Image caption Safle Cig Calon Cymru yn Cross Hands

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi difa tarw oedd wedi dianc yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau o gwmpas 10:30 ddydd Iau bod tarw wedi dianc o ladd-dy Cig Calon Cymru ar stad ddiwydiannol Cross Hands.

Bu'n rhaid cau Ffordd Black Lion am gyfnod ar ôl i'r anifail cael ei weld mewn cae ger eiddo yno.

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio'r cyhoedd bod y tarw'n beryglus, i beidio mynd yn agos ato, ac i breswylwyr aros y tu mewn i'w cartrefi.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu eu bod wedi difa'r tarw mewn ffordd oedd yn sicrhau na wnaeth yr anifail ddioddef.

"Roedd y tarw yn eithriadol o aflonydd ac yn berygl i'r cyhoedd" medd y datganiad.

"Fe gafodd nifer o opsiynau eu hystyried i ffrwyno'r tarw'n ddiogel ond doedd yr un ohonyn nhw'n bosibl ac felly ar ôl cael cyngor arbenigol yr unig ddewis diogel oedd i ddifa'r anifail heb iddo ddioddef o gwmpas 11.35."

Mae Ffordd Black Lion wedi ailagor.