Methu targedau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion tlotaf

Plentyn ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau ar gyfer lefel cyrhaeddiad disgyblion saith oed tlotaf yn ysgolion Cymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Y nod yw cynyddu lefel perfformiad y plant o gefndiroedd llai breintiedig, gan ddefnyddio cinio am ddim fel llinyn mesur.

Er bod cynnydd wedi bod ers y llynedd yn y lefel cyrhaeddiad, dyw'r lefel heb gyrraedd y targed o 80%.

Cafodd y targed yna ei osod gan Lywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2015, ar ôl i'r targedau blaenorol gael eu cyrraedd a hynny dair blynedd yn gynt na'r disgwyl.

Fe wnaeth 75.9% o ddisgyblion saith oed o deuluoedd ar lefelau incwm isel gyrraedd y lefel disgwyliedig.

Er bod hynny'n is na'r nod o 80%, roedd y ffigyrau'n dangos fod y bwlch rhwng perfformiad y rhai sy'n derbyn cinio am ddim a'r gweddill wedi lleihau i 14.3%.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Yn rhy aml yn y DU mae cyfleoedd pobl mewn bywyd yn cael eu penderfynu gan amgylchiadau eu teuluoedd.

"Mae'r newidiadau i'r gyfundrefn addysg, fel lleihau maint dosbarthiadau, diwygio'r cwricwlwm a chefnogi ysgolion gwledig, wedi eu hanelu at leihau'r anghyfiawnder hwn.

"Tra bod y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein disgyblion ieuengaf wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, does yna ddim lle i laesu dwylo."

Image caption Does dim lle i laesu dwylo, meddai Kirsty Williams

Dywedodd fod y llywodraeth wedi buddsoddi mwy o arian ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn "helpu'r rhai mwyaf difreintiedig mor gynnar â phosib".

Yn ôl ystadegwyr mae'n amhosib ar hyn o bryd asesu'r targedau sydd wedi eu gosod ar gyfer lefel cyrhaeddiad oedran TGAU, a hynny oherwydd newidiadau yn y modd mae'r data'n cael ei gasglu.

Yn 2017, erbyn Blwyddyn 11, roedd y gwahaniaeth rhwng y plant o gefndiroedd mwy tlawd a'r plant eraill wedi cynyddu i 32.4% o'i gymharu â 31.2% yn 2016.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland nad oes ateb hawdd i gau'r bwlch ond y gallai ysgolion fod o gymorth.

"Mae 'na lot sy'n gallu digwydd yn yr ysgol yn yr ystafell ddosbarth allai wneud gwahaniaeth, ac rydyn ni'n gwybod fod rhai ysgolion yn lleihau'r bwlch ac yn gwneud hynny yn llwyddiannus iawn," meddai.

Ond ychwanegodd nad yr ysgol yw'r unig ffactor.

'Testun pryder'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar fod y methiant i gyrraedd y targedau yn "rhagor o dystiolaeth nad yw ein system addysg yn cyflawni ar gyfer ein plant a phobl ifanc".

"Rydyn ni eisoes yn gwybod oddi wrth arbenigwyr rhyngwladol a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru nad yw disgyblion o gefndiroedd mwy breintiedig yn llwyddo cystal ag y dylen nhw," meddai.

"Felly mae'r ffaith bod disgyblion o gefndiroedd tlotach hefyd yn methu eu targedau yn destun pryder difrifol.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i wyrdroi'r toriadau sydd wedi ei wneud i gyllid pob disgybl yn y blynyddoedd diwethaf, a chynnig y gefnogaeth i'r gweithlu addysg allu newid y sefyllfa."

Pynciau Cysylltiedig