Dinas Diwylliant: Cais Abertawe yn methu

Abertawe
Image caption Roedd torf wedi casglu yn Abertawe ar gyfer y cyhoeddiad

Ni fydd Abertawe'n Ddinas Diwylliant 2021 ar ôl i Coventry ddod i'r brig.

Fe wnaeth Gweinidog Celfyddydau a Diwylliant Llywodraeth y DU, John Glen gyhoeddi'r newyddion yn fyw ar raglen The One Show.

Ffefryn y bwci oedd Paisley yn Yr Alban, ond daeth Coventry i'r brig ar draul yr Albanwyr yn ogystal âg Abertawe, Sunderland a Stoke-on-Trent.

Mae Abertawe wedi bod ar restr fer y gystadleuaeth o'r blaen, gyda rhaglen oedd yn pwysleisio cysylltiadau'r ddinas gyda Dylan Thomas.

Ond ar ôl colli i Hull yn 2013, roedd yna lai o sylw i'r bardd yn y cais diweddaraf.

Roedd rhaglen waith trefnwyr cais Abertawe yn cynnwys cynhyrchiad gan Michael Sheen, sioe gerdd gan gyfarwyddwr ffilm Twin Town, Kevin Allen, a pherfformiad o gân fwyaf enwog Bonnie Tyler, Total Eclipse of the Heart, ar draeth y ddinas.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
'Parhau i wneud pethau anhygoel' yn Abertawe

'Siomedig'

Dywedodd Tracey McNulty, cydlynydd cais Abertawe y byddai pobl yn naturiol yn siomedig, ond fod eu cais wedi dangos fod yna gefnogaeth, ynni a brwdfrydedd ar gyfer cynllun diwylliant yn y ddinas.

"Fe wnaeth pobl yn Abertawe a thu hwnt gymryd rhan mewn ymgyrch ffantastig ac rydym wedi dangos i eraill, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol pa mor bell rydym wedi cyrraedd fel dinas.

"Ac yr un mor bwysig, par mor bell yr ydym yn bwriadu mynd."

Yn ôl Jane Simpson, un arall oedd yn rhan o gais Abertawe 2021, roedd y ddinas wedi colli'r gystadleuaeth ond ddim eu huchelgais.

"Fe fydd sawl rhan o'r cynnig dal yn digwydd, gan gynnwys arena dan do digidol fydd yn cael ei agor yn 2020 ar gyfer cynnal sioeau, cyngherddau, arddangosfeydd, cynadleddau a gweithgareddau eraill."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Pam fod Abertawe yn lle mor arbennig?

Cafodd cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU ei chreu ar ôl llwyddiant Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.

Fe welodd y ddinas fuddsoddiad o £800m, gafodd ei ddefnyddio i adfywio nifer o strydoedd, adeiladau a gorsafoedd rheilffordd.

Yn ogystal daeth 9.7m yn rhagor o ymwelwyr yn ystod 2008 - cynnydd o 35%.

Image copyright Thinkstock

Straeon perthnasol