Gareth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Costau ychwanegol' cynnig gwasanaeth Cymraeg

8 Rhagfyr 2017 Diweddarwyd 21:11 GMT

Mae dyn busnes sydd yn un o gyfarwyddwyr cwmni tai gwyliau yn dweud bod cynnal busnes yn ddwyieithog yn heriol am fod yna gostau ychwanegol.

Mae'r cwmni Y Gorau o Gymru yn gweithredu yn Gymraeg, gyda'r wefan yn ddwyieithog a'r staff i gyd yn siarad Cymraeg

Ond fe fyddai Gareth Mahoney yn hoffi mwy o gefnogaeth i gwmnïau sydd eisiau cynnig gwasanaeth yn Gymraeg.

Ym mis Awst fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £400,000 "i helpu mentrau bach a chanolig i fod yn fwy dwyieithog" fel rhan o'u hymrwymiad i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.