Ryan Day yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer Prydain

Ryan Day Image copyright Getty Images

Mae Ryan Day wedi cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer Prydain wedi iddo guro Mark Joyce.

Yn hwyr nos Wener, fe gurodd y Cymro'r Sais 6-5 sicrhau ei le yn y pedwar olaf.

Dyma'r tro cyntaf i Day gyrraedd cyn belled yn un o dair prif gystadleuaeth y byd snwcer.

Bydd yn wynebu Shaun Murphy - enillydd y bencampwriaeth yn 2008 - am le yn y rownd derfynol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol