Arestio dyn wedi marwolaeth dynes 34 oed ym Mhenygroes

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Sioc wedi marwolaeth dynes ym Mhenygroes

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddynes 34 oed farw wedi digwyddiad ym Mhenygroes, Gwynedd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad ar Heol y Dŵr ychydig wedi hanner nos ddydd Sadwrn.

Mae dyn lleol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Fe ddywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi delio â digwyddiad ac mae marwolaeth y ddynes yn cael ei thrin fel un heb esboniad.

'Cymydog hyfryd'

Dywedodd Jean Pitts, oedd yn byw drws nesaf i'r ddynes fu farw, ei bod yn "gymydog hyfryd".

"Y tro cyntaf ges i wybod am unrhyw beth oedd pan ddaeth yr ambiwlans," meddai Mrs Pitts.

"Mae'n ddychrynllyd - mae o mor drist. Roedd hi'n gymydog hyfryd."

Mae'n debyg bod y ddynes yn wreiddiol o Gaernarfon ac wedi byw yn y tŷ am tua dwy flynedd.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn mynd o ddrws i ddrws i holi pobl yn lleol a'u bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd neu glywodd unrhyw beth amheus.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Straeon perthnasol