Abertawe 1-0 West Brom

Wilfred Bony yn dathlu Image copyright Getty Images

Fe gipiodd gôl hwyr Wilfred Bony fuddugoliaeth amhrisiadwy i godi Abertawe oddi ar waelod y tabl.

Gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn 12 gêm gynghrair, roedd dirfawr angen canlyniad da ar yr Elyrch yn Stadiwm Liberty.

Y tîm cartref ddaeth agosaf i sgorio mewn hanner cyntaf tawel, pan wyrodd cic rydd oddi ar un o amddiffynwyr West Brom a tharo'r postyn.

Ond gyda'r Elyrch yn cael trafferth gyda'u hergydion, roedd hi'n edrych yn debygol y byddai'u rhediad gwael yn parhau - hynny yw, cyn i Bony ddod i'r adwy a rhwydo o chwe llath gydag ergyd rymus.

Fe fethodd Tammy Abraham gyfle da i selio'r fuddugoliaeth, ond daliodd Abertawe ymlaen i'w mantais.

Mae Abertawe nawr un safle oddi ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, gyda phwynt yn fwy na Crystal Palace sy'n olaf.

Pynciau Cysylltiedig