Casnewydd 3-3 Caerliwelydd

Matt Dolan (dde) Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Matt Dolan (dde) yn dathlu sgorio un o'i ddwy gic rydd

Sgoriodd Matt Dolan ddwy gic rydd mewn gêm gyfartal gyffrous rhwng Casnewydd a Chaerliwelydd.

Shawn McCoulsky sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf, ond daeth y gêm yn fyw wedi'r egwyl.

Rhoddodd Luke Joyce a Kelvin Etuhu'r fantais i'r ymwelwyr, cyn i Dolan sgorio'i gic rydd gyntaf i unioni'r sgôr.

Llwyddodd i wneud yr un gamp am yr eilwaith i unioni drachefn ar ôl i Tom Miller sgorio i Gaerliwelydd.

Mae Casnewydd yn cwympo i'r 12ed safle yn Adran 2.

Pynciau Cysylltiedig