Cwpan Her Ewrop: Sale 24-0 Gleision

Alan MacGinty Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd AJ MacGinty 14 o bwyntiau yn erbyn y Gleision

Methodd Gleision Caerdydd â sgorio wrth i Sale eu curo'n gyfforddus yn y Cwpan Her.

Will Cliff a Marc Jones sgoriodd ddau gais Sale, gyda gweddill y pwyntiau o droed AJ MacGinty.

Mewn tywydd garw, fe ddangosodd y tîm o'r brifddinas fygythiad ar adegau, ond wnaethon nhw ddim llwyddo i gyrraedd y nod.

Er gwaethaf y canlyniad, mae'r Gleision yn parhau ar frig Grŵp 2.