Cwpan Pencampwyr Ewrop: Northampton 32-43 Gweilch

Y Gweilch Image copyright Getty Images

Fe seliodd y Gweilch eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop oddi cartref yn Northampton.

Gyda Dan Evans a Jeff Hassler yn sgorio ddwywaith yr un a chais yr un i Tom Habberfield a Kieron Fonotia, adeiladodd y Gweilch fantais enfawr o 43-8 gydag 20 munud i fynd.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl, gan fygwth y fantais wrth i Nic Groom, Rob Horne, Ahsee Tuala a Harry Mallinder dirio.

Llwyddodd y Gweilch i ddal ymlaen, ac maen nhw'n drydydd yng Ngrŵp 2, bwynt yn unig tu ôl i Clermont sy'n ail.

Pynciau Cysylltiedig