Snwcer: Day allan o Bencampwriaeth Prydain

Ryan Day Image copyright Getty Images

Mae Ryan Dau yn dweud fod 2017 wedi bod yn "flwyddyn dda" er iddo fethu â chyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Prydain.

Collodd y Cymro o chwe ffrâm i dair yn erbyn y Sais Shaun Murphy yn y rownd gyn-derfynol.

Murphy felly fydd yn herio Ronnie O'Sullivan am y bencampwriaeth yn y Barbican yn Efrog ddydd Sul, ar ôl iddo yntau guro Stephen Maguire.

Dyma oedd y tro cyntaf i Day gyrraedd cyn belled yn un o dair prif gystadleuaeth y byd snwcer.

Oherwydd ei berfformiad mae o'n ôl ymhlith 16 chwaraewr gorau'r byd, sy'n sichrau lle iddo ym mhencampwriaeth y Meistri ym mis Ionawr.

2010 oedd y tro diwethaf iddo gystadlu yn y Meistri ac fe fydd yn wynebu Ding Junhui yn y rownd gyntaf yn Alexandra Palace, Llundain.

Mae O'Sullivan wedi ennill Pencampwriaeth Prydain bum gwaith a Murphy unwaith yn 2008.