Dynes ifanc o Gaerdydd wedi marw yn Awstralia

Chantelle Madonia Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Chantelle Madonia yn "byw ei breuddwyd" yn ôl ei mam

Mae dynes ifanc o Gaerdydd wedi marw yn Awstralia.

Roedd Chantelle Madonia, 23, yn teithio am flwyddyn ar ôl iddi gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol De Cymru.

Dywedodd ei theulu bod ganddi gyflwr ar ei chalon a'i bod wedi marw yn ei chwsg.

Yn ôl ei mam, Lisa Madonia, roedd Chantelle yn "byw ei breuddwyd" draw yn Awstralia.

"Roedd hi eisiau teithio'r byd ac fe wnaeth hi hynny," meddai.

"Roedd hi'n caru cwrdd â phobl newydd. Dywedodd bod y bobl daeth hi i'w hadnabod yn Awstralia fel teulu iddi."

Dywedodd ei mam, sy'n dod o Lanisien, ei bod wedi marw ar 5 Rhagfyr achos y nam ar ei chalon. Roedd hi'n ymwybodol bod problem bosib gyda'i chalon ers 2012.

Mae disgwyl i'w chorff gael ei gludo i Gymru'r wythnos nesaf.

Hyd yn hyn, mae apêl i godi arian ar gyfer ei hangladd wedi casglu £8,000, gydag unrhyw arian dros ben yn mynd i elusen calon.

Pynciau Cysylltiedig