Tân mewn fferm dofednod yn Sir Benfro

Fferm ieir Image copyright Pembrokshire Herald
Image caption Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad am 15:45 ddydd Llun

Mae diffoddwyr tân wedi'i galw i fferm dofednod yn Sir Benfro ble mae ysgubor sy'n dal peiriannau yn wenfflam.

Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi'i galw i'r fferm yng Nghastell Gwalchmai ger yr Hwlffordd am 15:45 ddydd Llun.

Mae dros 30 o ddiffoddwyr tan yn bresennol a does dim cadarnhad eto ynglŷn â beth achosodd y tân mewn ysgubor sy'n cadw peiriannau.

Does dim anifeiliaid wedi eu hanafu yn y digwyddiad.