Galw am fwy o aelodau cynulliad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am fwy o ACau

12 Rhagfyr 2017 Diweddarwyd 21:07 GMT

Adroddiad newydd am weld mwy o Aelodau Cynulliad, rhagor o fenywod yn y siambr, a phobl ifanc 16 oed i gael pleidleisio.

Ond yn ôl awdur yr adroddiad, dyw'r Cynulliad fel ag y mae o, ddim mewn sefyllfa i ymdopi gyda phwerau newydd sy'n cael eu datganoli.

Mae'n awgrymu rhwng 80 a 90 o aelodau yn hytrach na'r 60 presennol.