Angen rhywbeth 'parhaol' i nodi hanes Iddewig Cymru

Synagog
Image caption Mae ansicrwydd am ddyfodol hen Synagog Merthyr Tudful

Mae angen rhywbeth parhaol i nodi treftadaeth Iddewig Cymru, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd arbenigwr ar Iddewon yng Nghymru ac awdur y llyfr 'The Jews of Wales,' Dr Cai Parry-Jones fod mwy o gydnabyddiaeth i'r rhan yma o hanes Cymru ers cychwyn datganoli, ond bod diffyg sefydliadau neu brosiectau parhaol - yn wahanol i'r Alban a Lloegr.

Daw wrth i ansicrwydd am ddyfodol hen Synagog Merthyr Tudful barhau.

Mae'r addoldy gothig - y synagog hynaf sy'n dal i sefyll yng Nghymru - yn wag ac ar werth.

Un o awgrymiadau Dr Parry-Jones, ynghyd â rhai'n lleol - ydy ei droi'n amgueddfa.

Gwlad aml-grefyddol

Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd cynnydd yn ymwybyddiaeth pobl Cymru o hanes ei Hiddewon, yn ôl Dr Parry-Jones.

"Ers datganoli, mae 'na fwy yn cael ei wneud, achos mae Cymru'n dechrau deall a gweld ei hun fel gwlad aml-grefyddol ac amlddiwylliannol," meddai.

Image caption Yn ôl Dr Cai Parry-Jones, mae mwy o ymwybyddiaeth am hanes Iddewon Cymru ers datganoli ond diffyg sefydliadau parhaol

Dywedodd bod llyfrau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar y pwnc a bod arddangosfeydd dros dro wedi eu cynnal.

"Ond does dim byd cadarn a pharhaol, felly gall mwy gael ei wneud."

Draw ym Merthyr, mae caniatâd cynllunio i droi'r hen synagog, sydd ar y farchnad, yn fflatiau.

Cafodd yr adeilad ei godi yn yr 1870au, ac roedd yn gwasanaethu cymuned sylweddol ar un cyfnod.

Mae hefyd yn anghyffredin yn bensaernïol, ac mae Dr Parry-Jones yn dweud bod rhai o adeiladau mwyaf eiconig de Cymru - fel Castell Coch a Chastell Cyfarthfa - wedi dylanwadu arddull Neo-gothig "anarferol" y synagog.

Gobaith rhai ym Merthyr yw nad cael ei droi'n fflatiau fydd ffawd yr adeilad, gydag awgrym y gallai'r cyngor lleol gymryd yr awenau a'i droi yn amgueddfa.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Merthyr Tudful am sylw.

Wedi'u gwasgaru

Mewn rhan arall o Gymru, mae aelod o'r gymuned Iddewig yn dweud nad ydy cynnal cymuned na threftadaeth yn hawdd.

Yn ôl yr Athro Nathan Abrams o Fangor, mae Iddewon y gogledd wedi'u gwasgaru, sy'n ei gwneud hi'n anodd cynnal digwyddiadau.

"Does 'na ddim llawer o Iddewon yng ngogledd Cymru, felly mae'n anodd gwneud pethau efo 10 o bobl - does 'na ddim synagog, dim cyfleusterau.

Image caption Mae'n anodd cynnal digwyddiadau pan fo Iddewon y gogledd wedi'i gwasgaru, medd Yr Athro Nathan Abrams

"Dwi'n trio gwneud pethau fel ffilmiau, pethau trwy fwyd - achos mae pawb yn licio bwyd!

"'Dan ni'n trio pob math o bethau... Ond mae'n anodd."

Er bod dyfodol Synagog Merthyr yn ansicr, i'r rheiny sydd am weld mwy o gydnabyddiaeth o hanes Iddewig Cymru, fe allai fod yn allweddol.

Yn ogystal â'r awgrym i'w droi'n amgueddfa neu ganolfan dreftadaeth, mae awgrym arall i'w symud i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, sydd ag addoldai Cristnogol yn unig ar hyn o bryd.

Mae Iddewon ar hyn o bryd yn dathlu Gŵyl y Cysegriad - Hannukah - fydd yn dod i ben gyda'r nos ar 20 Rhagfyr.

Pynciau Cysylltiedig