Merched 7 bob ochr Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018

rygbi saith bob ochr Image copyright Huw Evans Agency

Cadarnhaodd tîm Gemau'r Gymanwlad Cymru bod carfan rygbi saith bob ochr merched Cymru wedi sicrhau lle yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Gold Coast, Awstralia.

Bydd merched Cymru yn cystadlu ochr yn ochr â saith o genhedloedd eraill yn y twrnament y flwyddyn nesaf.

Dyma'r tro cyntaf erioed i rygbi saith bob ochr merched gael ei gynnwys yn rhaglen chwaraeon Gemau'r Gymanwlad.

Bydd y twrnament dynion yn cael ei gynnal am y chweched tro ers i'r gamp gael ei chyflwyno gyntaf yn Ngemau Kuala Lumpur yn 1998.

Bydd carfan y merched yn ymuno â thîm dynion Cymru sydd hefyd wedi cymhwyso ar gyfer gemau 2018.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol