Twristiaeth: 'Cymdogion' ddim yn gwybod digon am Gymru

castell conwy, canolfan mileniwm, penrhyn gwyr, eryri, dinbych y pysgod
Image caption Y pum ardal yng Nghymru gafodd y nifer mwyaf o ymwelwyr yn 2016 oedd Caerdydd, Sir Benfro, Gwynedd, Abertawe a Chonwy

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas wedi dweud nad yw'n credu fod "ein cymdogion o'r ynysoedd yma" yn gwybod digon am beth sydd gan Gymru i'w gynnig.

Ddechrau'r mis fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio'u trydedd flwyddyn thematig ar gyfer y diwydiant twristiaeth - Blwyddyn y Môr 2018.

Daeth hynny yn dilyn Blwyddyn y Chwedlau yn 2017, a Blwyddyn Antur yn 2016, fel ffordd o roi canolbwynt i ymdrechion i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr.

Y nod yn y pen draw, meddai'r llywodraeth, ydi "creu brand cryfach â mwy diffiniedig" yn ogystal â "chynyddu nifer a gwerth yr ymweliadau â Chymru".

Darlun cymysg

Ond ydi'r ymgyrchoedd wir yn ffordd effeithiol o farchnata'r wlad i ymwelwyr fyddai fel arall ddim o bosib yn ystyried dod yma?

Neu ai'r unig beth maen nhw'n ei wneud ydi cynnig canolbwynt ar gyfer digwyddiadau i dwristiaid sy'n dod beth bynnag?

Does dim dwywaith fod y diwydiant yn un o'r rhai pwysicaf yn y wlad, gydag ymwelwyr yn gwario tua £5bn bob blwyddyn yma, a'r sector yn cynnal tua 9% o weithwyr Cymru.

Ond cymysglyd yw'r darlun o ran y niferoedd sydd wedi bod yn dod dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn 2016, fe wnaeth 1,074,000 o bobl o dramor ymweld â Chymru, ffigwr sydd wedi cynyddu'n gyson dros y pum mlynedd diwethaf.

Image caption Mae nifer yr ymwelwyr tramor i Gymru wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn, ac yn 2016 fe gafwyd dros filiwn o ymwelwyr

Fe arhosodd ymwelwyr am gyfanswm o 7,166,000 o nosweithiau, gan wario £444m yn ystod eu hymweliadau.

Er y cynnydd, fodd bynnag, mae arbenigwyr wedi awgrymu nad yw Cymru'n gwneud y mwyaf o'i photensial i ddenu twristiaid o dramor, yn enwedig o'i gymharu â chymdogion fel yr Alban.

Ac mae nifer y bobl o'r DU sydd yn ymweld â Chymru i'w weld wedi gostwng os rhywbeth dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ystadegau Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr.

Patrwm tebyg sydd i'w weld o ran faint maen nhw'n ei wario, tra bod nifer yr ymweliadau undydd â Chymru o weddill y DU wedi aros yn weddol gyson dros y pum mlynedd diwethaf.

Image caption Does dim cynnydd wedi bod yn ddiweddar o ran faint o bobl o'r DU sydd yn ymweld â Chymru

Mae'r llywodraeth yn amlwg yn teimlo fod eu hymgyrchoedd thematig yn gweithio, ac maen nhw eisoes wedi cadarnhau y bydd y syniad yn parhau yn 2019 gyda'r thema 'Darganfod'.

Yn ôl yr Arglwydd Elis-Thomas, un o brif amcanion y llywodraeth ydi cynyddu nifer yr ymwelwyr o rannau eraill y DU.

"Beth 'dan ni 'di bod trio neud dros y blynyddoedd o ran denu pobl i Gymru, a denu pobl o Gymru i fwynhau Cymru, fel rhan o wyliau ydi pwysleisio gwahanol nodweddion y wlad," meddai.

"Mae o'n pwysleisio i bobl sy'n byw yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig bod 'na le fel hyn ar gael iddyn nhw unrhyw ddiwrnod neu unrhyw benwythnos.

"Felly mae'r neges yn un sy'n gallu tasgu'n weddol gyffredinol."

Cadw a'r cestyll

O ran ymweliadau i rai o safleoedd twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru, mae'r darlun yn edrych tipyn yn fwy iach.

Mae nifer y bobl sydd wedi bod yn ymweld â safleoedd corff treftadaeth Cadw wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn ers 2013/14, a llynedd fe wnaeth y ffigwr gyrraedd dros 1.4miliwn.

Ymhlith yr atyniadau mwyaf poblogaidd mae cestyll fel rhai Conwy a Chaerffili, gyda sawl un ohonyn nhw'n cynnal digwyddiadau yn ymwneud â'r ymgyrch farchnata fel y cerfluniau o ddreigiau wnaeth deithio'r wlad.

Image caption Cestyll Caernarfon, Conwy a Chaerffili yw'r rhai sydd yn denu'r nifer fwyaf o ymwelwyr bob blwyddyn

Fe wnaeth arddangosfa'r pabïau seramig yng Nghastell Caernarfon hefyd gyfrannu at ddenu dros 137,000 o bobl i'r safle yn ystod mis Hydref a Thachwedd 2016 yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod yr ymgyrchoedd - wnaeth gostio £195,000 yn 2016 a £336,000 yn 2017 - wedi talu eu ffordd.

Yn ôl eu ffigyrau nhw fe wnaeth ymwelwyr i safleoedd Cadw yn ystod ymgyrch 2016 arwain at incwm o £844,000, cynnydd o 74.5% o'i gymharu â'r flwyddyn gynt, gyda'r patrwm yn parhau yn 2017.

Image caption Mae cestyll Cymru yn gynyddol boblogaidd ymhlith twristiaid unwaith eto, yn ôl ffigyrau'r llywodraeth

Mae'n dangos fod y llywodraeth ar y trywydd iawn gyda'u hymgyrchoedd, meddai'r Arglwydd Elis-Thomas.

"Fyswn i ddim yn dweud fod o'n gyd-ddigwyddiad fod yr ymgyrchoedd yma wedi cyd-ddigwydd efo cynnydd neu gynnal y ffigyrau," meddai.

"Tasen ni'n mynd yn ein holau efo'r ffigyrau yn sicr bysa eisiau meddwl am ffordd arall o wneud, ond dwi'n meddwl bod y syniad yma o themâu ar gyfer blynyddoedd yn un fyddwn i'n defnyddio'n sicr am y blynyddoedd i ddod.

Image caption Fe wnaeth taith y dreigiau ddenu nifer o ymwelwyr i safleoedd Cadw yn 2016 a 2017

"Mae o'n rhoi cyfle i ffocysu ar y diwydiant yng Nghymru ac o fewn cymunedau Cymru ar yr adnoddau sydd gennym ni.

"Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd o ran marchnata er mwyn sicrhau bod y neges yn mynd i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gallu gweld hi."

'Elfen Gymreig'

Mae Emrys Llewelyn yn cynnal teithiau tywys o gwmpas Caernarfon i ymwelwyr, ac yn cytuno fod Cymru wedi bod yn denu mwy o ymwelwyr o dramor yn ddiweddar.

"Mae 'na gynnydd wedi bod yn bendant, yn enwedig Americanwyr. Mae'r bunt mor wan ar hyn o bryd, maen nhw'n dod draw ac yn aros yn hirach na fasa nhw wedi o'r blaen," meddai.

"Maen nhw wedi gwirioni efo'r lle. Mae'r dref ar i fyny ac mae 'na fwy o fusnesau yn agor o hyd."

Image copyright Emrys Llewelyn
Image caption Emrys Llewelyn yn tywys ymwelwyr ar daith o gwmpas Caernarfon

Ond er bod "fawr neb" o'r twristiaid i'w weld wedi clywed am y blynyddoedd thematig, mae'r digwyddiadau sydd ynghlwm â nhw yn dal i gynnig rhywbeth iddyn nhw wneud ar eu hymweliadau.

"Dwi'n meddwl fod o'n syniad arbennig o dda, a dwi isio iddyn nhw gario 'mlaen. Ond mae'n bendant angen mwy o elfen Gymreig iddyn nhw," meddai Mr Llewelyn.

"Mae 'na ormod o bwyslais ar gestyll y Saeson, mae Cadw yn canolbwyntio gormod arnyn nhw. Mae genna ni gestyll a brenhinoedd Cymreig hefyd.

"Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod am y chwedlau a'r hanesion yna hefyd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol