Adran Dau: Caergrawnt 1-2 Casnewydd

Shawn McCoulsky a Greg Taylor Image copyright Huw Evans agency
Image caption Shawn McCoulsky o Gasnewydd yn cystadlu gyda Greg Taylor o Gaergrawnt

Fe wnaeth capten Casnewydd Joss Labadie sgorio'r gôl ryfedda ar ddiwedd y gêm i sicrhau buddugoliaeth yng Nghaergrawnt.

Wrth geisio clirio'r bêl mewn panig fe wnaeth David Ford, golgeidwad y tîm cartref, fe wnaeth hi daro yn erbyn brest Labadie a mynd i mewn i'r gôl.

Yn gynharach yn y gêm roedd Shawn McCoulsky wedi rhoi Casnewydd ar y blaen cyn yr egwyl.

Ond daeth Caergrawnt yn ôl yn gryf a'u hymdrechion yn dwyn ffrwyth wrth i ergyd Jevani Brown unioni'r sgôr - dim ond i weld ei waith caled yn cael ei ddadwneud gan gôl Labadie.

Golygai'r canlyniad fod yr Alltudion yn codi i'r 9fed safle.

Pynciau Cysylltiedig