Celf yn cynnig therapi arbennig
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Celf yn cynnig therapi i heriau emosiynol a chymdeithasol

16 Rhagfyr 2017 Diweddarwyd 11:13 GMT

Mae artist o Gaerfyrddin gafodd driniaeth am ganser ar yr ymennydd nawr yn defnyddio celf wrth gyd-weithio gyda phobl ifanc sy'n wynebu heriau emosiynol a chymdeithasol.

Yn ôl Mared Lenny gafodd driniaeth saith mlynedd yn ôl "peintio yw'r moddion erbyn hyn".

Bydd gwaith y criw yn cael ei arddangos yn y dref dros y dyddiau nesa'.

Mae Adroddiad Iwan Griffiths yn dechrau gyda stori Miriam merch 16 oed wnaeth droi at ffotograffiaeth i daclo iselder.