Eluned Morgan: 'Angen help i gyrraedd 1m o siaradwyr'

Ystafell ddosbarth uwchradd

Mae'n rhaid i bob unigolyn sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru helpu Llywodraeth Cymru gyda'u nod o gyrraedd y targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Dyna mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan wedi'i ddweud wrth iddi hi gyhoeddi cynllun addysg sy'n gosod cyfeiriad ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf.

Mae'r strategaeth yn gosod targedau newydd ar gyfer cyrraedd yr uchelgais o filiwn o siaradwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru mai'r nod yw sicrhau bod pob person ifanc "yn gadael y system addysg yn barod i ddefnyddio'r iaith ym mhob cyd-destun".

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am gynllun y llywodraeth, gan ddweud ei fod yn "rhy araf o lawer".

Image caption Roedd Gweinidog y Gymraeg yn ymweld a'i hen ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Un nod yw cynyddu canran y plant saith oed sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o 22% ar hyn o bryd i 24% erbyn 2021.

Ond mae hynny'n llai na'r targed oedd yn y strategaeth ddiwethaf - sef 30% erbyn 2020.

Dywedodd y gweinidog bod rhaid bod yn "realistig" ynglŷn â sut i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys pum prif amcan i'w cyflawni erbyn 2021:

  • Datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn ysbrydoli dysgwyr i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg;
  • Cynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael defnyddio eu Cymraeg o oedran cynnar;
  • Athrawon i ddatblygu eu sgiliau i gyflwyno'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Cynyddu nifer y dysgwyr sydd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg;
  • Sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yr un mor rhwydd i bob dysgwr.
Image caption Fe wnaeth Carwyn Jones amlinellu ei weledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn yn ystod Eisteddfod Y Fenni yn 2016

Gwnaeth y gweinidog y cyhoeddiad yn ei chyn-ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

"Roeddwn i'n un o lond llaw o blant ar fy ystâd yng Nghaerdydd a gafodd eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy'n cofio'n iawn cerrig yn cael eu taflu at ein bws yn llawn plant ysgol gynradd, yn dangos gwrthwynebiad i ysgol Gymraeg yn y gymdogaeth."

Ychwanegodd: "Rwy' wrth fy modd bod yr agwedd tuag at yr iaith wedi newid yn sylfaenol ers pan oeddwn i'n blentyn, a bod gyda ni'r cyfle nawr i adeiladu ar yr ewyllys da hwn.

"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gryn her. Mae ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig y rheini o deuluoedd di-Gymraeg, i gofleidio'r iaith a'i defnyddio ym mhob cyd-destun yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y targed hwn.

"P'un a yw ein plant yn mynd i ysgolion Cymraeg neu'n dysgu'r Gymraeg mewn ysgol Saesneg, mae addysg yn allweddol i lwyddiant yr uchelgais hon.

"Dyna pam mae Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg mor bwysig a pham mae'n flaenoriaeth ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn."

'Osgoi ymrwymo'

Ond mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am gynllun Llywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone: "Y broblem sylfaenol gyda'r cynllun yw bod y camau i normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhy araf o lawer.

"Ac, er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i greu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg, mae'r cynllun yn osgoi ymrwymo'n gadarn i sicrhau y bydd un cymhwyster Cymraeg a phob disgybl yn ei sefyll.

"Yn 2013, dywedodd adolygiad annibynnol y llywodraeth bod angen dileu Cymraeg Ail Iaith 'ar frys' ac erbyn, fan hwyraf, 2018.

"Fodd bynnag, dan y cynllun hwn mae perygl y bydd y cymhwyster ail iaith yn parhau tan 2025."

Straeon perthnasol