Cynllun Cyflymu Cymru yn 'loteri côd post digidol'

Adam Price
Image caption Dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price bod "pobl wedi cael eu camarwain"

Mae nifer y bobl sydd yn medru cael band eang cyflym wedi mwy na dyblu yn ôl Llywodraeth Cymru yn sgil cynllun Cyflymu Cymru, ond mae un AC wedi ei ddisgrifio fel "loteri côd post digidol".

Mae Adam Price wedi cyhuddo cwmni BT o "gamarwain" rhai pobl mewn ardaloedd gwledig ynglŷn ag a fydden nhw'n medru derbyn y gwasanaeth newydd, sydd dros 30 megabit yr eiliad.

Fe fydd Cyflymu Cymru yn dod i ben ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae BT wedi cael £180m hyd yn hyn i weithredu'r cynllun, ond fe allai'r cwmni dderbyn £224m os yw'n cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru.

'Celwyddau'

Dywedodd Mr Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Byddem ni'n mynd mor bell â dweud fod pobl wedi cael eu camarwain.

"Mae celwyddau wedi cael eu rhoi o ran pryd mae pobl yn mynd i gael y gwasanaeth. Bai dyluniad y rhaglen yw e.

"Mae pobl wedi cael addewidion sydd heb gael eu delifro. Mae pob hawl gan bobl i fod yn grac."

Image caption Dywedodd trigolion Brechfa bod eu cysylltiad ffôn a band eang yn wael

Mae rheolwr prosiect Openreach yng Nghymru, Ynyr Roberts wedi gwrthod yr awgrym fod unrhyw un wedi cael eu "camarwain", a dywedodd bod yn gwmni wedi bod yn "deg a gonest" gyda'r wybodaeth oedd ar gael.

Yn ôl Mr Roberts, mae Cyflymu Cymru wedi bod yn "llwyddiant anhygoel, ac wedi cyrraedd mannau na fydden ni byth wedi cyrraedd heb y bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru."

Mae'n honni fod Openreach wedi cysylltu mwy na 700,000 gyda band eang cyflym, er dyw'r ffigwr hwnnw heb ei ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

'Dim gwybodaeth'

Un sydd wedi colli allan ar gynllun Cyflymu Cymru yw Ken James o bentref Nantyffin ger Brechfa yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'n dweud fod y gwasanaeth band eang sylfaenol yn wael, ynghyd â signal ffôn symudol anwadal.

"Maen nhw wedi anghofio amdanom ni. Dim ond mynd i'r trefi maen nhw," meddai.

"Dyw'r ffôn ddim yn gweithio, na'r band eang cyffredin, na'r ffôn symudol. S'neb yn dod i siarad â ni, a ni heb gael unrhyw wybodaeth."

Image caption Dywedodd Ken James bod y llywodraeth wedi "anghofio" am gymunedau cefn gwlad

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod cynllun Cyflymu Cymru wedi cael ei reoli yn ofalus trwy gyfrwng cytundeb grant cynhwysfawr.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod o leiaf 661,000 o dai a busnesau wedi cael eu cysylltu o dan Cyflymu Cymru.

Targed Llywodraeth Cymru yw y bydd 690,000 yn cael eu cysylltu ar gyflymder o o leiaf 30 megabit yr eiliad erbyn diwedd Rhagfyr 2017.

Bydd hyd at 95,000 o dai a busnesau yn cael eu heithrio o'r cynllun Cyflymu Cymru presennol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ystyried pwy ddylai fod yn gyfrifol am y cynllun nesaf i ymestyn darpariaeth Band Eang - Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru.

Bydd £80m yn cael ei wario ar y cynllun hwnnw er mwyn cysylltu'r tai a busnesau eraill erbyn 2020.

'Gweithio'n galed'

Yn ôl adroddiad newydd gan Ofcom, mae 66% o gartrefi a busnesau yng nghefn gwlad yng Nghymru yn medru cael cysylltiad cyflym.

Mae hynny'n cymharu â 96% mewn ardaloedd trefol.

Yn ôl Julie James, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Sgiliau a Thechnoleg, mae Cyflymu Cymru wedi bod yn "gynllun gwledig sydd wedi ehangu band eang cyflym i ardaloedd na fyddai wedi cael eu cysylltu oni bai am y cynllun".

Mae hi'n derbyn fod diffyg cysylltiad band eang cyflym yn "broblem enfawr" ar gyfer y 4% sydd yn weddill, ond "bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i'w cysylltu".

Straeon perthnasol