Uwch Gynghrair Lloegr: Everton 3-1 Abertawe

Leroy Fer Image copyright Getty Images
Image caption Leroy Fer sgoriodd gôl gyntaf y gêm wedi 35 munud

Mae Abertawe'n parhau ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddyn nhw golli o 3-1 oddi cartref yn erbyn Everton nos Lun.

Wedi dim ond tri munud o'r gêm fe gafodd Abertawe eu gorfodi i eilyddio'r ymosodwr Wilfered Bony oherwydd anaf i'w goes, gyda Tammy Abraham yn camu i'r maes yn ei le.

Roedd yr hanner awr gyntaf o'r gêm yn gystadleuol gydag Abertawe'n cael y gorau o'r chwarae.

Daeth Tom Carroll yn agos gyda chic rydd wedi 29 munud ond fe gafodd ei ergyd ei arbed gan Pickford yn y gôl i Everton.

Cic o'r smotyn

Yr Elyrch sgoriodd gyntaf wedi 35 munud. Cic gornel gan Carroll i'r postyn pellaf a Leroy Fer oedd yno i sgorio'n rhwydd.

Gyda hanner munud yn weddill o'r hanner cyntaf fe wnaeth Roque Mesa ildio cic o'r smotyn wedi trosedd ar Aaron Lennon.

Fe wnaeth Lukasz Fabianski arbed cic Wayne Rooney yn wych, ond Dominic Calvert-Lewin wnaeth ymateb gyntaf i ddod a'r sgôr yn gyfartal ar yr hanner.

Image copyright Getty Images
Image caption Fabianski yn arbed cic o'r smotyn Rooney ond Calvert-Lewin wnaeth ymateb gyntaf a sgorio i Everton

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg i'r hanner cyntaf gyda'r ddau dîm yn pwyso i sgorio'n gynnar.

Cyn seren yr Elyrch, Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl allweddol wedi 63 o funudau gydag ergyd ragorol o 30 llath.

Fe wnaeth y chwaraewr o Wlad yr Iâ arwyddo i Everton am £45m dros yr haf o Abertawe a ni wnaeth Sigurdsson ddathlu wedi iddo sgorio'r gôl.

Yn dilyn y gôl fe aeth pennau Abertawe i lawr gyda choesau ffres eilyddion Everton yn rhoi mwy o bwysau ar amddiffyn yr Elyrch.

O ddrwg i waeth

Fe aeth y noson o ddrwg i waeth i fechgyn Paul Clemment wedi'i Martin Olsson lorio Jonjoe Kenny y tu allan i'r cwrt cosbi ond fe wnaeth y dyfarnwr bwyntio i'r smotyn.

Fe wnaeth Wayne Rooney gymryd ei ail gic o'r smotyn o'r noson, a'r tro hwn fe roddodd y bêl yng nghefn y rhwyd.

Wedi'r gôl roedd Everton yn llwyr reoli'r chwarae ac roedd Abertawe'n gadael Goodison Park yn gwybod eu bod mewn dyfroedd dyfnion ar ddechrau cyfnod hynod o brysur o ran gemau dros gyfnod y Nadolig.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe bellach ar waelod y tabl, bedwar pwynt i ffwrdd o Stoke sydd un safle uwch ben y tri ar y gwaelod.

Mae gêm nesaf Abertawe yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr.

Pynciau Cysylltiedig