Apêl heddlu am ddynes sydd ar goll o ardal Pencader

Mair Lloyd Davies Image copyright Llun Teulu
Image caption Credir bod Mair Lloyd Davies wedi dal tacsi i Gaerfyrddin am 17:30 ddydd Llun 18 Rhagfyr

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn pryderu am ferch 18 oed sydd ar goll o ardal Pencader, Sir Gaerfyrddin.

Credir bod Mair Lloyd Davies wedi dal tacsi i Gaerfyrddin am 17:30 ddydd Llun, 18 Rhagfyr.

Mae ganddi wallt brown a chredir iddi fod yn gwisgo legins du a phinc, cardigan lwyd ac esgidiau canfas gyda gwadnau gwyn.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.