Pryderon rhieni am ffrwd addysg Gymraeg bosib ym Mynwy

Ysgol Gymraeg Y Fenni
Image caption Y bwriad yw bod disgyblion Ysgol Gymraeg Y Fenni yn symud i Ysgol Gynradd Deri View a bod yr ysgol honno yn uno gyda Ysgol Brenin Harri'r VIII

Mae rhai rhieni yn ardal Sir Fynwy yn pryderu am ddatblygiad addysg Gymraeg yn y sir.

Dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd yno ond does dim un ysgol uwchradd benodedig Gymraeg.

Mae'n rhaid i ddisgyblion deithio i Dorfaen os ydyn nhw eisiau parhau gyda'i haddysg yn yr iaith.

Tra y bydd un o'r ysgolion cynradd, Ysgol Gymraeg Y Fenni, yn symud i safle mwy, y bwriad yw creu ffrwd Gymraeg yn unig yn un o'r ysgolion uwchradd, sef Ysgol Brenin Harri'r VIII.

Diffyg nawdd

Yn ôl un rhiant, Eleri Rosier, mae angen i "ethos yr ysgol gyfan fod yn Gymraeg" er mwyn i'r disgyblion fod yn rhugl yn yr iaith.

Ond mae Swyddog Gymraeg y Cyngor yn dweud bod "dim arian i gael" ar hyn o bryd i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Fynwy.

Ers llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn y sir y llynedd mae'r galw am addysg Gymraeg wedi cynyddu.

Erbyn hyn mae Ysgol Gymraeg Y Fenni yn llawn ac mae'r cyngor wedi cyhoeddi y bydd y plant yn symud i safle mwy sef adeilad Ysgol Deri View.

Image caption Mae Eleri Rosier yn dweud mai i Ysgol Gyfun Gwynllyw fydd ei phlant hi'n mynd oni bai bod ysgol uwchradd Gymraeg yn cael ei hadeiladu yn y sir

Ond ffrwd Gymraeg yw'r bwriad ar gyfer ysgol uwchradd, gyda'r cyngor yn awgrymu y byddai 80% o'r addysg yn y ffrwd yn Gymraeg.

Mae Eleri Rosier, sydd a'i phlant yn Ysgol Gymraeg Y Fenni yn teimlo na fyddai ffrwd Gymraeg yn golygu y byddai'r disgyblion yn rhugl.

"Yn fy marn i dwi ddim yn credu bod hynny yn gallu digwydd mewn ffrwd achos bod rhaid i ethos yr ysgol gyfan fod yn Gymraeg.

'Trochi' yn yr iaith

"Mae eisiau popeth mae'r ysgol yn ei wneud fod yn Gymraeg er mwyn i hynny ddigwydd. Felly dwi'n anghytuno gyda'r syniad o ffrwd ac yn amlwg fydda i ddim yn dewis ffrwd i fy mhlant i."

Cytuno mae mam arall, Bethan Harrington sydd yn teimlo fod y model o gael ffrwd mewn ysgol "ddim yn gweithio".

"Dw i'n credu, er mwyn i'm mhlant i ddod allan o'r ysgol ar ôl ysgol uwchradd gyda...sgiliau safonol yn y ddwy iaith, yna mae'n rhaid iddyn nhw gael eu trochi yn yr iaith yn yr ysgol ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu rhoi ar wahân i blant sydd ddim yn siarad Cymraeg."

Image caption Mae'r cyngor wedi awgrymu y bydd 80% o'r addysg yn y ffrwd Gymraeg yn yr iaith yn Ysgol Brenin Harri'r VIII

Dyw Nicola Cadwalladr ddim yn siarad Cymraeg ond roedd hi eisiau i'w phlant fanteisio ar addysg Gymraeg.

"Byddai ysgol uwchradd annibynnol llawer mwy buddiol i'r plant, iddyn nhw barhau a'u haddysg Gymraeg. A dyw e ddim jest yn ymwneud â'r iaith, mae'n ymwneud â'r diwylliant hefyd.

"Dw i wedi sylwi gyda'r plant...maen nhw'n cael mynediad at bethau diwylliannol yng Nghymru felly mae gyda nhw fwy o hunaniaeth."

Denu mwy o ddisgyblion?

Mae Rhys Jones, Swyddog Datblygu Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn deall pryderon rhai yn y sir.

Ond mae'n rhaid hefyd ystyried yr amseroedd teithio i Dorfaen, sy'n golygu bod rhai yn dewis addysg uwchradd Saesneg yn y Fenni neu Crughywel.

"Mae nifer ohonyn nhw yn gadael yr ysgol i fynd i Ysgol Brenin Harri'r VIII ac i Ysgol Crughywel sydd yn agosach iddyn nhw. Ac i'r plant yna, bydde'r opsiwn o gael ffrwd Gymraeg yn ardal Y Fenni yn bositif iawn."

Image caption Cydnabod bod yna alw am addysg Gymraeg mae Alan Burkitt ond mae'n dweud bod diffyg arian gan y cyngor

Yn ôl y Cyngor, mae cynnig ffrwd yn ateb peth o'r galw am addysg Gymraeg.

Mae Alan Burkitt, Swyddog Cymraeg y Cyngor yn dweud bod yr awdurdod yn gefnogol i'r syniad o gael ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Fynwy.

"Sdim arian i gael," meddai.

Lobïo'r cyngor

"Polisïau sydd yn dod o'r llywodraeth yn Llundain, sdim arian i gael yn llywodraeth leol. Mae'n balans rili o beth ni'n gallu fforddio."

Mae'n cydnabod bod yna alw am addysg Gymraeg ac yn annog rhieni i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

"Falle lan i rieni nawr i gweud, 'Reit gewn ni ddangos i'r cyngor shwt mae hwn mynd i ddatblygu'."

Bydd yr awdurdod yn ymgynghori yn y flwyddyn newydd ar y cynlluniau.