Dyn yn cyfaddef achosi marwolaeth mam feichiog ar yr M4

Rebecca Evans Image copyright Llun Teulu
Image caption Bu farw Rebecca Evans wedi'r gwrthdrawiad ar 29 Tachwedd 2016

Mae dyn 51 oed o Gaerdydd wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth mam feichiog trwy yrru'n ddiofal yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ym mis Tachwedd y llynedd.

Ond mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe, fe blediodd Craig Scott o ardal Y Mynydd Bychan yn ddieuog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Rebecca Evans o Ben-y-bont a'i baban yn y groth yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng tri char ger Margam, Castell-nedd Port Talbot.

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Mr Scott gael ei gynnal fis Mehefin nesaf.

Roedd Ms Evans, 27, yn teithio gyda'i gŵr Alex, a'i mab Cian, oedd yn ddwy oed ar y pryd.

Cafodd y bachgen ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Straeon perthnasol