Heddlu'n apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ym Mangor

Paul Jones Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae cyflwr Paul Jones, 47, wedi gwaethygu ac mae wedi'i gludo i'r ysbyty yn Stoke

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth am symudiadau dyn cyn iddo ddioddef ymosodiad difrifol ym Mangor ddydd Llun.

Fe wnaeth Paul Jones, 47, ddioddef anafiadau difrifol wedi'r ymosodiad yn Nheras Plas Llwyd yn y ddinas yn hwyr brynhawn Llun 18 Rhagfyr.

Mae dyn lleol 32 oed wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o achosi niwed corfforol.

Mae cyflwr y dioddefwr bellach wedi gwaethygu ac mae wedi'i drosglwyddo i ysbyty yn Stoke.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un welodd Mr Jones rhwng 09:00 fore Llun 18 Rhagfyr tan iddo gael ei gludo i Ysbyty Gwynedd am 13:30 ddydd Mercher 20 Rhagfyr.

Pynciau Cysylltiedig