Abertawe 1-1 Crystal Palace

Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Jordan Ayew yn dathlu ei gôl

Mae'r Elyrch yn parhau ar waelod y gynghrair er iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty.

Hon oedd gêm gyntaf Abertawe ers i'r clwb ddiswyddo ei rheolwr Paul Clement ac i Leon Britton gymryd yr awenau dros dro ac roedd y chwaraewyr i weld yn llawn egni.

Fe ddaeth y cyfleoedd gorau i Crystal Palace yn yr hanner cyntaf ond di sgôr oedd hi.

Ar ôl 59 munud fe gafodd yr ymwelwyr gic o'r smotyn i fynd ar y blaen. Luka Milivojevic gafodd y gôl.

Er hynny fe darodd yr Elyrch yn ôl gyda 12 munud yn weddill gyda chwip o ergyd isel gan Jordan Ayew gan ei gwneud hi'n gyfartal a sicrhau pwynt gwerthfawr.