Bolton 2-0 Caerdydd

Pel droed Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gary Madine gafodd y gôl gyntaf i Bolton

Colli fu hanes Caerdydd oddi cartref yn erbyn Bolton, canlyniad nad oedd neb wedi proffwydo.

Roedd hi'n gêm gyffroes gyda'r bêl yn llifo o un ochr y cae i'r llall.

Ac fe aeth y bêl i gefn rhwyd yr Adar Gleision yn yr hanner cyntaf ond doedd h ddim yn cyfrif am fod yna gamsefyll.

Daeth y goliau yn chwarter awr olaf y gêm gyda Gary Madine yn cael cic o'r smotyn a Josh Vela yn cael yr ail drwy rwydo yn agos i'r gôl.

Roedd Caerdydd wedi gobeithio cau'r bwlch rhyngddyn nhw a Wolves sydd ar frig y gynghrair ond wedi'r canlyniad yma mae saith pwynt yn gwahanu'r ddau dîm.