Cadw dyn yn y ddalfa wedi ymosodiad difrifol yn Abertawe

Ymosodiad Abertawe
Image caption Yr heddlu'n archwilio'r man lle digwyddodd yr ymosodiad.

Mae dyn 29 oed wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ar stryd fawr Abertawe.

Fe aeth Kyle Dunbar o Fforestfach o flaen ynadon Abertawe ar fore Gŵyl San Steffan.

Mae e wedi ei gadw yn y ddalfa tan i ddyddiad gael ei bennu ar gyfer ei ymddangosiad nesaf.

Mae dyn 39 oed yn parhau'n ddifrifol wael yn Ysbyty Treforys yn dilyn yr ymosodiad ddigwyddodd tua 20:40 nos Sadwrn 23 Rhagfyr.

Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu drwy Taclo'r Tacle.

Image caption Roedd Stryd Ebenezer oddi ar y stryd fawr yn parhau ynghau ddydd Sul

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol