Wycombe Wanderers 2-0 Casnewydd

Wycombe Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Nathan Tyson yn rhwydo'r bêl i Wycombe Wanderers

Mae Casnewydd wedi llwyddo i godi i'r 10fed safle yn yr Ail Adran er iddyn nhw golli yn erbyn Wycombe Wanderers.

Nathan Tyson sgoriodd y gyntaf i'r tîm cartref wedi 15 munud, cyn i Adebayo Akinfenwa fynd â Wycombe ymhellach ar y blaen yn yr ail hanner.

Daeth ergyd bellach i Gasnewydd wedi 90 munud wrth i Joss Labadie gael ei anfon o'r maes â cherdyn coch, gan amddifadu'r tîm o unrhyw obaith o daro nôl.