Cau ffordd ddeuol ger Wrecsam wedi gwrthdrawiad

gwrthdrawiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483

Mae rhan o ffordd ddeuol yr A483 ger Wrecsam wedi ei chau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd.

Mae'r cymal i gyfeiriad y gogledd rhwng cyffyrdd 4 Coedpoeth a 5 ar y troad i A451 Ffordd Y Rhyl ynghau i gerbydau.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod bod gwaith atgyweirio ar rwystrau yng nghanol y ffordd yn mynd rhagddo.

Pynciau Cysylltiedig