Abertawe'n penodi Carvalhal yn rheolwr

carvahal Image copyright Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Carlos Carvalhal fel eu rheolwr newydd.

Bydd yn olynu Paul Clement a gafodd ei ddiswyddo gan Yr Elyrch yn gynharach yn y mis.

Ers i Clement adael ar 20 Rhagfyr mae'r chwaraewr-hyfforddwr Leon Britton wedi bod yn ngofal y tîm.

Fe gafodd Carvalhal ei hun ei ddiswyddo fel rheolwr Sheffield Wednesday yn gynharach yr wythnos hon gyda'r tîm yn 15fed yn y Bencampwriaeth.

Cafodd Carvalhal, 52 oed o Bortiwgal, yrfa gymysg fel chwaraewr cyn troi'n rheolwr yn 1998.

Ers hynny mae wedi rheoli 16 o glybiau - y mwyafrif ym Mhortiwgal - ac fe ddaeth i Sheffield Wednesday yn 2015.

Yn ystod ei gyfnod yn Hillsborough, fe arweiniodd y clwb i 6ed a 4ydd yn ei ddau dymor llawn wrth y llyw, gan golli yn y gemau ail gyfle ar y ddau achlysur.

Mae e wedi'i benodi'n rheolwr Abertawe tan ddiwedd y tymor presennol.