Colli 40 o swyddi wrth i westy gau

cleddau bridge hotel Image copyright Google

Mae oddeutu 40 o swyddi'n debyg o gael eu colli wedi i weithwyr mewn gwesty yn Noc Penfro gael clywed y bydd yn cau ar 2 Ionawr.

Fe gafodd staff Gwesty Pont Cleddau eu galw i gyfarfod brynhawn Mercher i glywed y newyddion.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Joshua Beynon bod y staff "wedi'u syfrdanu" gan y newyddion a bod rhai wedi gweithio yno ers rhwng 10 a 15 mlynedd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Beynon ei fod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru pa gymorth fyddai ar gael i'r gweithwyr fydd yn colli'u gwaith yn y Flwyddyn Newydd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r gwesty am sylw, ond dyw'r cwmni sy'n ei rhedeg ddim wedi gwneud sylw yn gyhoeddus am yr adroddiadau y bydd yn cau.

Pynciau Cysylltiedig