Pedair wythnos o waharddiad i Steff Evans

Steff Evans a Ben John Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe welodd Steff Evans (chwith) y cerdyn coch am ei sialens ar asgellwr y Gweilch, Ben John

Mae asgellwr y Scarlets, Steff Evans wedi cael ei wahardd am bedair wythnos wedi iddo weld cerdyn coch yn y fuddugoliaeth dros y Gweilch ar Ŵyl San Steffan.

Fe welodd y cerdyn am sialens ar Ben John a welodd asgellwr y Gweilch yn diodde' anaf i'w ben.

Fe fydd Evans nawr yn colli'r gemau yn erbyn y Gleision a'r Dreigiau yn y Pro14 ynghyd â'r ddwy gêm olaf yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn Caerfaddon a Toulon.

Bydd Evans ar gael i chwarae eto o hanner nos ar ddydd Sul, 21 Ionawr, bythefnos cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe wnaeth panel disgyblu'r Pro14 gwrdd yn Nulyn ddydd Iau a barnu bod trosedd Evans yn deilwng o waharddiad am wyth wythnos, ond cafodd hynny ei gwtogi o ystyried ymddygiad da y chwaraewr a'i amddiffyniad.

Mae gan Evans a'r Scarlets yr hawl i apelio'r penderfyniad, ond mae hynny'n annhebygol wedi i hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac dderbyn ar ddiwedd y gêm bod y drosedd yn haeddu cerdyn coch.

Straeon perthnasol