Porthcawl: Dau wedi anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

A4229 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd sydd yn cael ei hadnabod yn lleol fel 'bryn zig zag'

Mae dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Heddlu'r De fod Fiat 500 gwyn a Vauxhall Corsa coch wedi taro'i gilydd ar yr A4229 ym Mhorthcawl toc cyn 23:30 nos Sadwrn.

Cafodd dau berson oedd yn teithio yn y Vauxhall Corsa eu cludo i'r ysbyty, ac fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y ddau gar yn gyrru ychydig cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.